Cofnodion cryno - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 8 Chwefror 2024

Amser: 10.40 - 14.13
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
13695


Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Delyth Jewell AS (Cadeirydd)

Hefin David AS

Joel James AS (yn lle Tom Giffard AS)

Llyr Gruffydd AS

Carolyn Thomas AS

Tystion:

Y Farwnes Deborah Bull, Ty’r Arglwyddi

Eluned Haf, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Tom Kiehl, UK Music

Ruth Cocks, British Council Cymru

Staff y Pwyllgor:

Lleu Williams (Clerc)

Haidee James (Ail Glerc)

Tanwen Summers (Dirprwy Glerc)

Anisah Johnson (Dirprwy Glerc)

Manon Huws (Cynghorydd Cyfreithiol)

Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol)

Sara Moran (Ymchwilydd)

Robin Wilkinson (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. 

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS a Tom Giffard AS, ac roedd Joel James AS yn bresennol fel dirprwy ar ran Tom Giffard AS.

</AI1>

<AI2>

2       Diwylliant a’r berthynas newydd â’r UE: sesiwn dystiolaeth gyda deddfwrfeydd eraill (1)

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Farwnes Bull.

 

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Kevin Brennan AS.

</AI2>

<AI3>

3       Papurau i'w nodi

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyngor Celfyddydau Cymru a National Theatre Wales ynghylch yr Adolygiad Buddsoddi.

 

3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth ynghylch effaith y gostyngiadau yn y gyllideb ar gyrff hyd braich.

 

3.4 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg ynghylch y Gofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol.

</AI3>

<AI4>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 5, 6, 7, 8 a 10 yn ystod y cyfarfod heddiw

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI4>

<AI5>

5       Diwylliant a'r berthynas newydd â'r UE: trafod y tystiolaeth

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI5>

<AI6>

6       Hawliau darlledu rygbi'r Chwe Gwlad: trafod y materion allweddol

6.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol cyn cytuno i ddychwelyd at y pwnc yn y cyfarfod nesaf, a drefnwyd ar gyfer 28 Chwefror 2024.

</AI6>

<AI7>

7       Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol: trafod yr adroddiad drafft

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft cyn cytuno arno.

</AI7>

<AI8>

8       Trafod y flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn 2024

8.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn 2024 cyn cytuno arni.

</AI8>

<AI9>

9       Diwylliant a’r berthynas newydd â’r UE: sesiwn dystiolaeth gyda chyrff ambarél (2)

9.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Celfyddydau Rhyngwladol Cymru; UK Music; a British Council Cymru.

 

9.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at UK Music i ofyn am ragor o wybodaeth yn gysylltiedig â’r sesiwn.

</AI9>

<AI10>

10    Diwylliant a'r berthynas newydd â'r UE: trafod y tystiolaeth

10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>